Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AM
AFIECHYDON MOCH,
A'R MODDION I'W MEDDYGINIAETHU.

Y mae mochyn, yn ei gyflwr naturiol, yn anifail iachus, a phan y byddo wedi ei ddofi, nid yw yn hawdd iawn ei niweidio, os caiff ryw lun o driniaeth a chwareu teg. Pa fodd bynag, trwy ei fod yn cael ei lyfetheirio a'i gaethiwo; yn gorfod ymdrybaeddu mewn baw; yn cael ar un adeg ei syrffedu, bryd arall ei newynu; heddyw yn cael hen fwyd wedi suro, yfory yn cael ymborth wedi ei ysgaldio—ni ddylem ryfeddu os bydd yr anifail yn ddarostyngedig i ymosodiadau afiechydon peryglus a marwol ar adegau. Y prif afiechydon ag y mae moch yn ddarostyngedig iddynt, oherwydd cael eu camdrin fel hyn, ydynt y rhai' canlynol. {{c|AM Y DWYMYN (FEVER) MEWN MOCH. Y mae moch yn hynod o ddarostyngedig i fevers, ac arddangosant hyny trwy hongian eu penau, a'u troi ar un ochr; y llygaid yn gochion, sychder a gwres mawr yn y ffroenau, y gwefusau, a'r croen yn gyffredinol; tueddiad i redeg yn sydyn, a sefyll yn sydyn hefyd, ac y mae hyny yn gyffredin yn cael ei ddylyn gyda math o benysgafnder, yr hyn a bâr iddynt syrthio i lawr, a marw, na ragflaenir hyny mewn pryd. Pan y deuwch i wybod fod yr afiechyd yma yn eu blino, dylech sylwi yn fanwl at ba ochr y byddant yn troi, a'u gwaedu yn y glust, neu yn y gwddf, ar yr ochr wrthgyferbyniol. Y mae rhai yn eu gwaedu o dan y gynffon, oddeutu dwy fodfedd o dan y gloren. Y mae yn dra sicr, fod y pensyfrdandod, neu y benddaredd, neu fel y geilw y Saeson ef, y staggers, mewn mochyn, yn tarddu oddiar ormodedd o waed yn ei gyfansoddiad, a thrwy eu gwaedu mewn pryd bydd iddynt wella yn fuan.