Tudalen:Cyfarwyddiadau at brynu cadw a magu moch.djvu/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AM CHWARENAU MEWN MOCH

Afiechyd yn y Gwddf, neu fath o chwyddiad, ydyw hwn hefyd; a'r feddyginiaeth ato ydyw eu gwaedu o dan y tafod, a rhwbio eu cegau, ar ol eu gwaedu, gyda halen a blawd gwenith wedi ei guro yn fân, a'u cymysgu yn dda gyda'u gilydd. Os dygwydd fod hwch a fyddo yn goddef dan yr anhwyldeb a pherchyll ynddi, rhoddwch iddi wreiddiau dail gwayw'r brenin. neu yr yellow daffodil, fel y geilw y Saeson hwynt.

AM FOCH YN LARU AR FWYD, NEU YN EI DAFLU I FYNY AR OL EI FWYTA.

Pan y mae moch yn taflu eu bwyd i fyny, gellir iachâu eu hystumog trwy roddi iddynt lwch ivory wedi ei raspio, neu hartshorn wedi ei sychu mewn padell gyda halen. Dylai y pethau hyn gael eu cymysgu â'u bwyd, yr hwn a ddylai fod yn benaf yn gynwysedig o ffa neu fês wedi eu malu; ond os na ellir eu cael, defnyddier haidd, wedi ei frasfalu mewn melin, yn eu lle, ac ysgaldiwch hwy gyda'r pethau a nodwyd. Y mae rhai yn rhoddi math o lysiau a elwir y wreiddrudd (madder,) ar achlysur fel hyn, wedi eu cymysgu gyda'u bwyd.

Pa fodd bynag, nid yw yr anhwyldeb yma yn peri i foch feirw, ond y mae yn meddu yr effaith o dynu moch i lawr o ran eu cig. Ond diameu ei fod yn atalfa ar haint y gwaed, neu y gargut, fel y geilw y Saeson ef, yr hyn a achosir yn gyffredin trwy iddynt fwyta gormod borfa newydd, wedi iddynt gael eu troi allan gyntaf yn y gwanwyn.

AM GLEFYD Y GWAED (GARGUT).

Y mae y rhan fwyaf o bobl wledig bob amser yn ystyried y clefyd hwn i farwolaeth. Arddengys ei hun, gan mwyaf, yn yr un dull a fever mewn moch, trwy eu bod yn ymollwng wrth gerdded, ac yn laru ar eu bwyd; yn y Jever, pa fodd bynag, bydd iddynt fwyta yn iachus nes y syrthiant; ond yn yr anhwyldeb yma yn y gwaed, bydd