cysgu, ymddengys yn gwbl farw, heb fod ganddo na syniad na symudiad, er i chwi ei gystwyo yn drwm, nes yr ymadfero.
Y feddyginiaeth sicraf a mwyaf cymeradwy at yr anhwyldeb yma ydyw gwraidd y cucumus silvestris, neu y cucumber gwyllt, fel y geilw rhai ef, wedi ei talu a'i ystreinio mewn dwfr, yr hwn a roddir iddynt i'w yfed. Bydd i hwn beri iddynt gyfogi yn ddioed, ac yn fuan ar ol hyny deuant yn fywiog, ac ymedy eu cysgadrwydd. Pan fyddo eu hystumog wedi cael ei chlirio fel hyn, rhoddwch iddynt ffa ceffylau wedi eu mwydo mewn heli porc, neu drwngc neu biso ffres, oddiwrth unrhyw berson iachus; neu ynte fês wedi cael eu trwytho mewn dwfr a halen cyffredin, oddeutu y ddeugeinfed ran o halen at y dwfr. Bydd yn anghenrheidiol eu cadw i mewn yn ystod yr amser y byddont dan y driniaeth, a pheidio gadael iddynt fyned allan hyd ganol y diwrnod nesaf, wedi rhoddi iddynt yn gyntaf foliaid da o flawd haidd wedi ei gymysgu â dwfr, yn mha un y byddo ychydig risg derw wedi cael eu berwi am deirawr neu bedair. Neu, fel myddyginiaeth ag sydd yn fwy tyner na'r un flaenorol, gellwch roddi iddynt oddeutu chwarter owns o monk's rhubarb, sef eu gwraidd wedi eu sychu, gyda phegaid o flawd haidd, yr hyn a ddyg y mochyn i ymborthi gydag ystumog da.
AM Y CLAFR MEWN MOCH.
Y mae arwyddion yr afiechyd yma ar foch yn ddigon adnabyddus. Cynwysant grach, plorynod, ac weithiau luaws mawr o fân lynorod, ar wahanol ranau o'u cyrph. Os esgeulusir hwy, daw yr arwyddion hyn yn fwy amlwg fyth; ymleda yr afiechyd dros holl arwyneb y croen; ac os gadewir iddo fyned yn mlaen heb ei atal, cynyrcha archollion a doluriau dyfnion, nes bydd y holl gorph yr anifail yn un crynswth o lygredigaeth.
Y mae llawer o ddadlu yn nghylch yr achos o'r clafr; ond y farn fwyaf cyffredin ydyw mai budreddi yn y croen, gyda phorthi y mochyn â bwyd rhy boeth, ydyw gwir darddiad yr anhwyldeb.