afiach blaenorol. Pan yr elo gyntaf i mewn, rhoddwch iddo amryw sypiau o wermod, newydd eu casglu, fel y byddo iddo ymborthi arnynt yn hamddenol; gan ofalu bob tro y bydd genych achos i ddwyn mochyn afiach o'r newydd i mewn, am roddi iddo wellt glân, a chwt glân. Y mae polpody y dderwen, fel y cyfarwyddwyd uchod, yn feddyginiaeth ragorol hefyd at y choler mewn moch.
AM Y FRECH GOCH.
Bydd gan foch, pan y byddant yn cael eu blino gan y frech goch, lais mwy cryglyd nag arferol; bydd eu tafodau yn llwydion, a'u crwyn wedi eu gorchuddio yn dew â blisters, neu chwysigod, o faintioli pŷs. Yn gymaint a bod yr afiechyd yma yn naturiol i foch, byddai yr hen bobl yn cynghori, fel ag i'w ragflaenu, fod iddynt gael eu bwydo mewn cafnau plwm. Y mae hefyd yn arferiad gyffredin, pan y mae yr afiechyd yma yn blino moch, i roddi iddynt drwyth o briony root a cummin water, yn eu bwyd cyntaf bob bore. Ond y ffordd sicraf er eu meddyginiaethu, yn ol barn y medddygon goreu, ydyw parotôi y cyfferi canlynol:—
Cymerwch o Sulphur, haner pwys,
Alum, tair owns,
Bay—berries, tri chwarter peint,
Huddugl, dwy owns.
Gymysgwch y pethau hyn oll gyda'u gilydd, rhwymwch hwy mewn llian, a rhoddwch hwy yn y dwfr y byddo y moch yn ei yfed, gan eu hysgwyd neu eu cyffrôi yn gyntaf yn y dwfr. Neu ynte—
Cymerwch o Flour of sulphur, haner owns,
Madder, wedi ei falu, gymaint ag a'i cuddia,
Liquorice, yn dafellau, chwarter owns,
Aniseed, chwarter owns,
::Blawd gwenith, un lwyaid.
Cymysgwch y cyfan gyda llaeth newydd, a rhoddwch y dogn i'r moch bob bore ar eu cythlwng, neu cyn iddynt brofi dim ymborth; ac adfynychwch hyn ddwy waith neu dair. Y mae hon yn feddyginiaeth a fawr gymeradwyir fwran a'r frech goch mewn moch.