wedi gweled o honom y gair a ddefnyddia fel y deallid ef ac fel yr oedd mewn arferiad cyffredin ymysg y werin? Y mae'r rhagrithiwr yn y Synagogau ac ar yr heolydd, er cael ei ganmol gan ddynion, yn rhoddi taleb neu dderbyneb am eu gwobr. Ni ddaw dim mwy iddynt o'r gwaith hwn. Y mae llawer o eiriau a gyfieithir yn "derbyn." Defnyddia'r Arglwydd fwy nag un; ond yn y bregeth ar y mynydd yn unig, sef yn Matt. vi. 2, 5, 16, yn unig y defnyddia hwn; ac yn ol pob tebyg yr oedd yr Athraw mawr am roddi min yr arferiad masnachol o dderbyn taleb i'r brawddegau oedd yn desgrifio'r Pharisead —yr un mwyaf diobaith y pregethwyd yr efengyl iddo erioed.
Defnydd fel yna a wneir o'r cregyn. Rhoddant oleuni cyfnod yr ysgrifen ar air a brawddeg.
Y mae llefnyn neu dafell o garreg galch yn dwyn ysgrif, hefyd, sydd yn myned. dan yr enw ostracon, ac yn cael ei rhestru gyda'r pridd lestr. Y mae'r holl ysgrifeniadau a ddarganfuwyd a berthynent i'r cyfnod yr oedd Groeg a Rhufain mewn bri yn y wlad ar ddarnau o briddlestr, ond ar y garreg y mae yr ysgrifau Coptaidd—hen iaith yr Aifft a siaredid drwy'r