Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/103

Gwirwyd y dudalen hon

a fynegai'r hawl i'r fraint hon. Yn llysoedd barn Groeg teflid carreg ddu i lestr pan gondemnid dyn; a dyna fel y gwnaethpwyd pan wgodd ei wlad ar Socrates; a phan deflid carreg wen, arwyddai hynny fod y ddeddf yn ei gyfiawnhau, neu yn myned heibio i'w drosedd. Yr oedd gan y Lefiaid hefyd garreg wen fel tystysgrif o'u cymhwyster i weini mewn pethau sanctaidd. Pa figiwr' llawnach o ystyr a ellid ei ddefnyddio yn y dydd hwnnw er cysuro Cristion na'r garreg wen? Danghosai fod drws gras yr Hollgyfoethog yn agored, ac y gallent hwythau dynnu hyd at ddiwalliad o'r ystor, canys yr oedd Un wedi rhoddi ei Hun drostynt ac wedi anturio eu cyfiawnhau o flaen y nef. Yr oedd yn rhaid iddynt fod yn gadwedig drwy'r enw hwn.

Carreg wen oedd papur etholiad rhai pobl yn y dydd hwnnw.

Dyma bapur ysgrifennu nodiadau of bregeth. Cawn homili neu ddarn o lythyr o dan law rhyw Esgob yn rhybuddio yn erbyn hustyngwr neu wr sydd yn cario chwedlau. Fel hyn y desgrifia'r troseddwr yn siarad.

"Dy eiddo ydwyf fi.' meddai; ac wedi hyn os a ato ef (y gelyn) dywed 'Y mae'n resyn