Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/104

Gwirwyd y dudalen hon

gennyf am danat iy fod yn ddistaw fel hyn, tra mae d'elyn yn gwneuthur felly â thi.' Ar ol hynny efe a ddwg fy ngeiriau at y llall ac a ddwg yr eiddo ef i mi nes iddo greu ymraniad ac ymryson. Er hyn, pan ymddiddana â thi, tyngheia di gan ddywedyd— Na ddywed wrth un dyn yr hyn a ddywedais i ti o ba herwydd y mae pob dyn sydd yn ddeu-dafodiog wedi ei ddieithrio oddiwrth Dad, a Mab, ac Ysbryd Glan, hyd nes yr edifarhao. A dyweded yr holl bobl Felly y boed.'"

Cawn yng nghasgliad Mr. W. E. Crum (Coptic Ostraca) lawer iawn o bethau eglwysig, a rhai o'r pethau mwyaf dyddorol ydyw cytundebau rhwng pleidiau yn sicrhau na bydd iddynt ymgyfreithio. Y mae dyn o'r enw Ezekias, yn rhoddi sierwydd cyfreithiol i'r Esgob Abraham na bydd iddo hawlio dim ymhellach oddiar yr Esgob, yr hwn oedd wedi diarddel brawd Ezekias. Ni fydd iddo fyned i gyfraith â'r esgob heb dalu dirwy o owns of aur. Ymddengys oddiwrth hyn nad oedd y swyddog eglwysig yn cael ei amddiffyn gan ragorfraint gysgodol deddf ei wlad pan weinyddai ddisgyblaeth eglwysig.

Cyfeiriasom at yr Esgob Abraham o'r blaen. Cafwyd llawer o'i ohebiaeth yn Dêr el Bahri yn 1893—4. Cysylltir ei enw yn y llythyrau à Victor "ei fab." Ni