Ysgrifau ar Briddlestri. 95 ddywedir am ba esgobaeth y gofala; eithr ar bapurfrwyn sydd yn awr yn yr Amgueddfa Brydeiníg ceir ewyllys neu lythyr cymun Esgob Hermonthis o'r enw Abramius. "I'r offeiriad duwiol a'm disgybl," Victor, y cyflwyna ei holl eiddo, gan gynnwys monachlog Sant Phoebammon. Y mae Dioscorus, archoffeiriad Hermonthis, yn dyst i'r ewyllys; ac ar un o'r llafnau cerrig ceir llythyr oddiwrth yr Esgob Abraham at berson o'r enw hwn.
Tybir, felly mai yr un yw perchen yr ewyllys a gŵr gohebiaeth Dêr el Bahri. Rhoddwn un neu ddwy o ysgrifau dyddorol sydd yn taflu goleuni ar yr adeg: a gwyddom mai pethau a ddigwyddodd tua'r flwyddyn 600 a'i helyntion sydd yn ysgrifenedig ar yr ostraca, oherwydd cofnodir diffyg ar yr haul, a dywed seryddwyr mai ym Mawrth, 601, y digwyddodd hwnnw. Dyma rai o'r ysgrifau "ymrwymiad gan Marc" y diacon gostyngedig i'r diacon Victor.
"Trwy ewyllys Duw a gweddiau'r saint yr wyf yn barod i gadw'r gorchmynion sanctaidd a osodaist arnaf ac i wneuthur holl waith crefftwr ac i ddyfod atat ti i'r mynydd hwn ar gytundeb am fis o ddyddiau ar y pryd ac i gyflawni gwasanaeth (leitourgia) y lle yn ddyfal a pharod, &c.