Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/107

Gwirwyd y dudalen hon

VI. YSGRIFAU AR GROEN.

DEFNYDD arall a arferid i ysgrifennu arno oedd croen. Rhagorir ar bapurfrwyn mewn llawer ystyr, ond yr oedd yn drymach o ran pwysau ac yn uwch ei bris na hwnnw. Darganfuwyd y ffordd i'w barotoi tua dwy ganrif cyn Crist; ac yn Pergamus, hen brif ddinas Rhufain yn Asia, y digwyddodd hynny. Oddiar y dydd hwnnw hyd heddyw, ar groen yr ysgrifennir pob gweithred o bwys ymhob gwlad. Lle nodedig am ei lyfrgell oedd Pergamus. Sefydlwyd hi gan y brenin Eumenes II. (197—159 cyn Crist); a glynodd enw'r ddinas wrth y gair Saesneg parchment (o'r Lladin Pergamena charta), oddiar y dydd y darparwyd ef gyntaf. O groen geifr, defaid, neu loi, y parotoir y defnydd cyffredin i ysgrifennu arno; ond ceir un hefyd sydd yn feinach ac yn decach, a elwir vellum, o groen mynnod, wyn a lloi, ac yn y ganrif o'r blaen darganfuwyd ffordd i wneuthur efelychiad da o'r croen o fath o bapur.