Croen oedd memrwn Paul. Yn ei ail lythyr at Timotheus, esgob Ephesus, ac efe yr ail waith ger bron Nero, gofynna'r apostol am y gochl, y llyfrau, a'r memrwn (2 Tim. iv. 13) a adawyd yn Nhroas gyda Carpus. Amrywia llawer mewn barn am yr hyn a ysgrifenwyd ar y memrwn. Dywed un mai llyfr nodiadau Paul ydoedd; a dywed arall mai ysgrythyrau'r Hen Destament oedd yn ysgrifenedig arno; eithr cydolygir yn dra chyffredinol fod y llyfrau o bapurfrwyn a'r memrwn o groen.
Ar y defnydd hwn y mae'r copiau. hynaf o'r Testament Newydd. Taflwn olwg frysiog dros bedwar neu bump o honynt. Yn yr Amgueddfa Brydeinig y trysorir y copi a elwir ysgriflyfr (Codex) A. Ynddo ceir ymron y Beibl oll mewn Groeg; a chredir iddo gael ei ysgrifennu mewn pedair canrif a hanner ar ol dyfodiad Crist i'r byd. Ni ellir disgwyl am ysgrifau a fydd lawer yn hŷn, am fod copiau o'r ysgrythyrau yn brinion a bod erledigaeth wedi peri i lawer o honynt fyned yn aberth i dân. Byddai pob gelyn yn ceisio lladd y Cristion a'i lyfr, am na allai ysgar y berthynas rhwng y ddau. Ni chariai canlynwyr Crist arf. Gwnaeth un o