tân yr aur. Wedi'r deugain mlynedd. daeth Diocletian (284—305), ac yn Chwefrol, 303, anfonodd allan orchymyn i lwyr ddinistrio Cristionogaeth, a llosgwyd ei hysgrythyrau gyda llwyredd ofnadwy. Gorchmynnwyd i'r henuriaid a'r esgobion eu cyflwyno i fyny i'r swyddogion; a gwyrth fuasai y posibilrwydd i unrhyw gopi ddianc rhag y fflam; a hwn oedd y cyfnod y difawyd yr ysgriflyfrau. Wedi i'r hindda ddod drachefn, yn 330, ysgrifenwyd hanner cant o gopiau drwy orchymyn yr Ymerawdwr Cystenyn at wasanaeth eglwysi ei brif ddinas. Mewn prif lythrennau (uncials) yr ysgrifenwyd y copiau hynaf, ac o'r nawfed ganrif ymlaen cawn filoedd o gopiau mewn ysgriflaw redeg (cursive).
Y Codex A yw un o'r copiau hynaf o'r ysgrythyrau. Yn 1098, gosodwyd y llyfr yn Llyfrgell Caercystenyn: a chyflwynwyd ef gan Cyril Lucar, hen batriarch yr Eglwys Ddwyreiniol yn Alexandria, yr Aifft, ond oedd ar y pryd yn batriarch Caercystenyn, i Siarl I., brenin Lloegr yn 1628—ymhen dwy flynedd ar bymtheg ar ol cyhoeddi y cyfieithiad awdurdodedig Saesneg gan y brenin Iago. Yr oedd deugain mlynedd wedi pasio er