pan gyhoeddwyd Beibl Dr. William Morgan yn 1588; ac yr oedd argraffiad Cymraeg Dr. Richard Parry o Lanelwy ar y maes oddiar 1620. Felly, nid oes un dylanwad gan Codex A ar destun y cyfieithiad Saesneg na'r Cymraeg.
Yn Lloegr Brotestanaidd y trysorir y copi hwn. Cedwir un arall yn Llyfrgell y Vatican—cartref y Pab yn Rhufain. Ysgrifenwyd hwn tua'r bedwaredd ganrif. Cynhwysa yr Hen Destament a'r Newydd, ac eithrio dros ddeugain o dudalennau o'r ysgrif sydd ar goll. Yr enwau mwyaf adnabyddus ynglyn âg astudiaeth Codex B, cyn i'r awdurdodau Pabaidd gyhoeddi darluniau cyflawn o hono, ydyw Tregelles, Tischendorf, ac Alford. Yr oedd y blaenaf a enwydSamuel Prideaux Tregelles (1813—1875) yn enedigol o Falmouth. Gweithiodd o 1828 i 1834 yng ngwaith haearn Abaty Castell Nedd, ac yn 1836 cawn ef yn athraw yn ei gartref. Wedi hynny aeth i Rufain i efrydu yr ysgrif sydd o dan ein sylw; a dywed y Parch. J. Paterson Smith o Dublin fod Tregelles wedi cael trafferth gyda'r awdurdodau Pabyddol pan oedd yn gweithio ar y Codex. Ni chaniateid iddo bin ysgrifennu na phapur,