Yn 1892 darganfu dwy chwaer ddysgedig—Mrs. Lewis a Mrs. Gibson o Gaergrawnt, ysgrif o werth o'r pedair Efengyl mewn Syriaeg, ac yn hen fynachlog godre mynydd Sinai y cafwyd hi. Y mae'n amlwg mai cyfieithiad ydyw a wnaethpwyd gan ryw ddiwinydd a ddygai fawr sel dros athrawiaeth a ffynnai ar y pryd yn yr Eglwys; ac y mae wedi troi allan yr enedigaeth oruwchnaturiol a briodolir i'r Gwaredwr. Yn ol yr ysgrif, ar y groes y coronir yr Iesu â drain. Yn lle "Mab Duw" yn Ioan i. 34, cawn "Etholedig Duw" a gelwir Barabbas yn Math. xxviii. 16, 17, yn Iesu Barabbas. Ar groen a olchwyd yr oedd yr ysgrif. Y cyfieithiad o'r Efengylau oedd yr isaf, a dyddiad yr uchaf yw 778. Mewn ystafell dywyll y cedwid y trysor hwn gan y mynachod, ac ni wyr neb pa mor hir y bu yno cyn i'r chwiorydd hyn ei ddwyn i oleu'r dydd. Y cwbl a wyddom ydyw fod gweddi a mawl wedi esgyn yn ddifwlch oddiyno am dros bymtheg canrif. Yma y cafodd Dr. Rendel Harris o hyd i amddiffyniad Aristides; a diau fod yno lawer iawn o bethau fyddai'n taflu pelydrau o oleuni ar lawer pwnc dyrus.