Jerusalem oedd prifddinas Judah, ac o ddyddiau Omri ymlaen yr oedd Samaria, dinas newydd ar y ffordd o Sichem i Esdraelon, yn brif ddinas teyrnas y gogledd, sef Israel neu Ephraim (1 Bren. xvi, 24) tua 925 cyn Crist; a bu felly hyd ei dinistr gan yr Assyriaid yn 722 cyn Crist. Gelwir Samaria gan Eseciel yn chwaer hynaf Jerusalem (xvi. 46); ac er na phechodd fel hanner pechod" Jerusalem, y mae'n amlwg fod ei drwg yn fawr, a bod dyddiau ei goddiweddiad gan ei phechod yn yr ymyl. Nid oes gan Esaiah (xxviii.) well enw arni na "choron balchder meddwon Ephraim." "Bydd ardderchowgrwydd ei ogoniant yn flodenyn diflanedig: megis ffigysen gynnar cyn' yr haf." Wedi dyfod o Jezebel i fyw yma daeth y ddinas yn lle crefyddol pwysig; adeiladwyd temi i Baal. Lladdodd y frenhines hon broffwydi'r Arglwydd; ac yn bwyta ar ei bwrdd yr oedd pedwar cant a deg a deugain o broffwydi Baal, ynghyd a phedwar cant o broffwydi'r llwyni (1 Bren. xviii.), a pharhaodd dylanwad y duwiau dieithr hyd ddyddiau Jehu, yr hwn a ddinistriodd y deml. Yr oedd Eliseus yn byw yma, ac y mae yn bur debyg mai yma y proffwydodd Hosea. Mor bwysig
Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/126
Gwirwyd y dudalen hon