Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/13

Gwirwyd y dudalen hon

CYFRINACH Y DWYRAIN.

I. YR YMCHWIL AM A FU.

Y MAE'R awydd am fyned yn ol yn gryf ym meddwl pob dyn. Gan fod holl afonydd y presennol a'u tarddell yn y gorffennol, y mae y llwybr, fynychaf, yn un hawdd i'w gael, a'i gerdded; ac y mae cymaint o allu gan yr hyn a fu i esbonio yr hyn sydd. Cerddwn gyda glan afon fawr sir Aberteifi ym mis Ebrill, ac wrth weled dywylled oedd ei dyfroedd cododd ynnof gwestiwn-yr hen gwestiwn, sydd barod i godi-paham? Dywedodd fy nghyfaill wrthyf mai rhwng ceulannau o fawn y rhedai Teifi am rai o filldiroedd cyntaf ei thaith.

Cododd y cwestiwn, yn gyffelyb, ym meddwl apostol ac efengylwr; a chan wybod fod ym mryd dynion ei ofyn, trodd Ceidwad mawr y byd lawer iawn gydag ef.