Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/130

Gwirwyd y dudalen hon

ant anfri ar law Hanun—y gwr gamddeallodd garedigrwydd, i aros yno nes tyfu o'u barfau.

Nid ydym yn y nodiadau hyn ond megis wedi teithio ar antur. Y mae ugeiniau o leoedd sydd wedi eu hadgyfodi o ddistawrwydd y gorffennol pell sydd yn ychwanegu yn ddirfawr at ein gwybodaeth a'n dyddordeb, ac yn cadarnhau dilysrwydd yr Ysgrythyrau. Hyderwn y bydd cipdrem fel hon yn ddigon i ddatguddio'r posibilrwydd rhyfeddol sydd o flaen y darganfyddiadau a wneir yn y dyfodol yn y gwledydd y bu'r Arglwydd yn gwneuthur enw iddo'i hun yn hanes tylwythau'r ddaear.




CAERNARFON:

CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.).

SWYDDFA CYMRU."