casgliad hynafiaethol o Assyria sydd ym meddiant y wlad hon, ac a gedwir yn ein Trysordy Cenedlaethol yn Llundain. Daeth Botta y Ffrancwr (1802-1870) o hyd i blas Sargon (Is. xx. 1), ac y mae basluniau (bas-reliefs) y lle hwn yn addurno muriau'r Louvre, ym Mharis. Trafnid-faer Ffrainc yn Alexandria a Mosul ydoedd efe; a chyhoeddodd, mewn. undeb â Letronne, Burnouf, ac eraill. bum cyfrol ar Ninifeh. Darganfu Layard lyfrgell Sardanapalus. Asnapper (Ezra iv. 10) yw enw'r brenin hwn yn yr Ysgrythyr, a gelwir ef yn Assur-bani-pal gan ei bobl. Teyrnasoedd o 668 i 626 cyn Crist. Yr oedd wedi ei addysgu ym Mabilon-y wlad fawr gymydogol i Assyria. Boddlonai'r Assyriaid ar gopio gweithiau Babilonaidd. Ni anturiasant ond ychydig ar hyd llwybrau newyddion; ac nid rhyfedd hynny, oherwydd yr oedd dysg Babilon mewn seryddiaeth, gramadeg, rhifyddeg, a meddyginiaeth yn nodedig iawn. Y mae'r llenyddiaeth hon yn drysoredig ar lechau o glai; a chasglwr diail oedd Assur-bani-pal. Yr oedd yn rhyfelwr mawr hefyd. Gorchfygodd Susan (Esther i. 3), a daeth teyrnas Elam i ben; eithr dan deyrnasiad
Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/20
Gwirwyd y dudalen hon