Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/22

Gwirwyd y dudalen hon

Ymwelodd â'r wlad yn y bymthegfed ganrif. Mynach o Ulm, yn yr Almaen ydoedd. Bu yno ddwywaith. Yr ail dro aeth Bernhardt de Breydenbach, Deon Mainz, ac yntau mor bell a Mynydd Sinai. Gallem feddwl fod llawer o arabedd yn ysbryd y mynach. Yn hanes ei bererindod i Jericho, dilynir yr ymwelwyr gan Arabiaid, a dywed Fabri ei fod ef a'i gwmni mewn mwy o enbydrwydd na'r gŵr a syrthiodd ymysg lladron, oherwydd yr oeddynt hwy wedi dwyn eu lladron eu hunain i'w canlyn. Cawn Maundrell yn teithio yn y dwyrain yn 1697, a Pococke yn 1738. Deffrodd ysbryd ymchwilgar ar ol darganfod Herculaneum yn 1720 a Pompeii yn 1748. Trefydd yn yr Eidal oedd y ddwy Cuddíwyd hwynt. drwy lyfrithiad sydyn y mynydd tanllyd Vesuvius yn y flwyddyn 79; ac o dan lwch a lludw y mynydd hwnnw y buont hyd ddechreu y ddeunawfed ganrif. Parodd y darganfyddiad o honynt ddyddordeb dwfn a chyffredinol; a gwelwyd, mewn drych, adgyfodiad o'r gorffennol. hyn.

Yn 1809, danfonwyd un o'r enw Burckhardt i Aleppo gan gymdeithas a ffurfiwyd er darganfod canolbarthau Affrica. Ei neges oedd dysgu iaith ac arferion.