Mohamedan-Arabaidd nes ei gwneud yn anhawdd i neb wybod yn amgen nad hynny ydoedd. Bu farw cyn gwneud llawer o'r gwaith a fwriadwyd iddo, eithr gadawodd gofnodion dyddorol a gwerthfawr o'i deithiau.
Enwau ereill o fri ymysg teithwyr yn y Tir Sanctaidd, ydyw Irby, Buckingham, Mangles, a Dr. Robinson, o'r America.
Yn 1867, aeth Syr Charles Warren allan. Yn 1872, aeth Stewart, ac yn fuan ar ei ol Conder. Yn 1874, gwelwn. Lieut. Kitcherer, yn awr Arglwydd Kitchener o Khartoum, yn ymgymeryd â'r gwaith o fesur Palestina. O dan nawdd y Palestine Exploration Fund a sefydlwyd yn 1865, yr anfonwyd y rhai diweddaf hyn; a pharha y gymdeithas hon i gasglu gwybodaeth a'i gwasgar ar hyd y blynyddoedd.
Yn yr Aifft y mae'r Egypt Exploration Fund wedi gwneud pethau mawrion. Llafuria y Mri. B. P. Grenfell, A. S. Hunt, F. LI. Griffith, Edouard Naville, Flinders Petrie, D. G. Hogarth, ac ereill, gyda hi. Y mae, i waith y gymdeithas dri nod,-sef, y darganfyddiadol; cadw cofnod a darlun o bob gwrthrych o ddydd-