II. CENADWRI Y CERRIG.
ER darganfod nifer mawr o gerrig yn dwyn cofnodion o weithredoedd cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth, ac er cael miloedd o briddfeini yn llwch yr hen ddinasoedd yn Assyria, am ysbaid ni lefarasant yn ddealladwy yr un gair o'u cyfrinach am nad oedd neb ar dir y byw yn medru eu dehongli. Iaith nad oedd neb yn ei deall oedd yr un y mynegai y cofgolofnau eu stori ynddi, yn nechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd yr ysgrifen ar lun cŷn neu lettem; ac anhawdd fuasai cael dim yn fwy manteisiol er ysgrifennu mewn clai a charreg. Bu'r dull hwn o ysgrifennu yn un cyffredin yng ngwledydd y Dwyrain agosaf atom. Cawn hi yn Elam, Cappadocia, Assyria, Babylonia, Persia, a Syria. Disodlwyd hi gan yr arddull Phoenicaidd—a bu farw; ac wedi marw o honi, ni lefarodd am hir gyfnod. Bu yn fud yn ei bedd am ganrifoedd, ac hiraethai dynion dysgedig am weled y dydd y byddai'r ysgrifau gododd o lwch y dinasoedd yn dechreu siarad; a thrwy