y Ffrancod o wlad yr Aifft rhoddwyd y garreg i fyny gan Amgueddfa Cairo i un o gadfridogion Lloegr; a chyflwynodd yntau hi fel anrheg i'r brenin Sior III., yr hwn a'i gosododd yn yr Amgueddfa Brydeinig. Yn gerfiedig ar y maen y mae tri math ar ysgrifen—ymlaenaf, yr ysgrif—lun (hieroglyphic); wedi hynny Aiffteg y bobl (demotic); ac ar y gwaelod dros hanner can llinell mewn llythyrennau Groegaidd. Bu llawer o ddyfalu am gynnwys yr iaith a ysgrifennai ei gwyddor mewn darluniau; eithr ni fu hir astudiaeth yn effeithiol i gynyrchu dim amgen na breuddwydion. Yng ngharreg Rosetta, wele ddehonglwr i'w chyfrinion yn y Roeg odditani, oedd yn gyfieithiad o honi, a chafwyd llwybr goleu yn fuan i hanes yr Aifft. Fel yr awgryma'r enw, cyfrin-iaith yr offeiriaid oedd yr hieroglyphic mewn amseroedd diweddar yr ail iaith ar y garreg a ddefnyddid mewn masnach, a Groeg oedd cyfrwng y llywodraeth yn ei swyddogion a'i hordeiniadau. Safai'r garreg unwaith yn nheml Tum—duw machludiad haul. Cerfiwyd hi drwy orchymyn offeiriaid Memphis; a chofnodiad a geir arni o'u syniadau uchel hwy am y brenin Ptolemy Epiphanes ar ei ddydd pen blwydd yn y
Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/28
Gwirwyd y dudalen hon