drwy ei rhyfel â Syria, gwelodd Moab gyfleusdra i daro er sicrhau ysgafnach baich. Hanes yr holl ymgyrch hyn a geir ar garreg Moab; ac y mae yn atodiad i'r hanes fel y croniclir ef gan yr hanesydd Iddewig. Colofn i ogoneddu Chemos—duw y wlad ydyw. "Carreg iachawdwriaeth" y gelwir hi,—"canys efe a'm gwaredodd odditan fy anrheithwyr a rhoddodd i mi weled fy nymuniad ar fy ngelynion—ar Omri brenin Israel." Yr oedd iaith Moab yn debyg iawn i'r Hebraeg; ac ni bu anhawsder o gwbl i'w deall. Casglodd cryn lawer o ramant o gwmpas i'r golofn hon wedi ei darganfyddiad gan y cenhadwr, Dr. Klein, yn 1869. Ni wawriodd y gwirionedd fod ei lygad wedi disgyn ar drysor mor werthfawr ar ei feddwl o gwbl. Prynnodd hi am bedwar ugain punt, a bwriadai ei gosod yn amgueddfa'i wlad yn Berlin.
Danfonodd Ffrancwr o'r enw M. Clermont—Ganneau gynnyg o £375 i bobl Moab am dani, a chyn hynny, fel y bu yn dda, yr oedd wedi codi ei hysgrifen. Cofia y rhai sydd yn dilyn camrau hanes sut yr oedd rhwng yr Almaen a Ffrainc tua'r adeg yr oedd y ddau hyn yn ceisio cipio'r garreg o Moab i'w trysordai cenedlaethol. Deffrôdd yr ymryson hwn dra-