chwant yr Arabiaid. Rhoddasant dân dan y golofn i'w phoethi, a thaflwyd dŵr oer drosti gan ei thorri yn ugain darn; eithr drwy fod Ganneau wedi sicrhau copi o'r argraff nid amhosibl oedd gosod darn at ddarn.
Sylwn yn nesaf ar yr ysgrif y tarawyd arni gan wr oedd yn ymdrochi yn ymyl llyn Siloam yn 1880. Derbynia'r llyn ei ddyfroedd drwy geuffordd a wnaed drwy ganol y graig o Ffynnon y Forwyn, sydd yn tarddu yn nyffryn Cedron. Nid oes darddell yn y ddinas. Dinas ddiddwr yw Jerusalem. I'r Psalmydd gymaint yn well oedd y ddinas yr edrychent ati. Nid sychu a rhedeg a rhedeg a sychu a wnai ffynhonnau honno,—"Y mae afon a'i ffrydiau a lawenhant ddinas Duw.". At y ffrydiau a redent drwy y twnel hwn y cyfeiria Esay (viii. 6). Gwnaed un o'r ffyrdd tanddaearol (canys y mae dwy o leiaf i'w cael) gan Solomon; a thua dyddiau Hezeciah, cyn i Assyria ymosod ar Jerusalem, argaewyd yr aber uchaf (2 Cron, xxxii. 30); ac arweiniai y camlesi hyn y dyfroedd i'r ddinas, a chan fod y ffynnon y tuallan wedi ei selio nid heb lawer o drafferth y deuai y gelynion i wybod am dani.
Yn y geuffordd hon, fel y dywedwyd, yn ddamweiniol tarawyd ar ysgrif mewn