phwysau o naw ugain tunell ormod rhwystr ar eu ffordd. Cyflwynwyd hi ddwy waith fel rhodd gan lywodraethwr yr Aifft i frenhinoedd y wlad hon; ond ar ei gwely yn yr Aifft y gadawyd hí er hyn ac er llawer cynllun arall i'w dwyn drosodd. Yn 1867, gwerthwyd y tir y safai arno, ac arfaethai'r perchennog newydd ei thorri i fyny i wneud defnyddiau adeiladu o honi. Anesmwythodd hyn nifer o ddysgedigion ym Mhrydain, ac addawodd y Proffeswr Erasmus Wilson ddeng mil o bunnau i bwy bynnag a'i gosodai i fyny yn y brifddinas; ac ar ol ei gosod mewn rhol o haearn dyfrdyn, cychwynnodd ar ei thaith ym Medi, 1877. Ar Fau Biscay dechreuodd chwareu pranciau fel pe bai ysbryd rhyw Pharaoh wedi ymaflyd ynddi; a chyrhaeddodd y newydd fod y llong a'i llusgai wedi ei gadael; eithr nid. oedd y garreg a heriodd ystormydd y canrifoedd i gilio o'r golwg hyd yn oed yn y môr. Gwelwyd hi yn fuan yn marchog y donn, a chyrhaeddodd ei chartref newydd ger y Tafwys.
Ar un ochr, yn ol y rhai a fedrant ddehongli y darluniau, ceir enw'r brenin o fewn cylch. Uwchben ei enw ef ceir darluniau o gorsen a gwenynen. Corsen