oedd arwydd rhanbarth uchaf yr Aifft; a safai'r wenynen dros yr Aifft isaf. Golyga hyn fod Thothmes III. yn llywodraethu dros y ddwy ran. Yn ol barn y mwyafrif o'r awdurdodau, ysgrifennodd Rameses II. (1300—1230 c.c.) hefyd gofnodion arni. Efe oedd y brenin newydd a gyfododd yn yr Aifft, yr hwn nad adnabuasai mo Joseph (Ex. i. 8); a thrwy orthrwm a adeiladodd Pithom a Raamses i gadw'r trysorau. Dywed ei argraff ei fod yn gosod ei derfynau lle y mynnai, a'i fod mewn heddwch drwy gyfrwng ei allu. Cofnodir ffaith hynod a phwysig iawn gan Mr. Handcock ynglyn â phriddfeini muriau Pithom. Yn y rhai agosaf i'r sylfaen. ceir gwellt; ond ar y rheiny y mae priddfeini a rwymwyd a chawn a hesg, ac y mae hyn yn gyson hollol â'r hanes yn Exodus ii. a v., "Ac ni roddir gwellt i chwi, eto chwi a roddwch yr un cyfrif o'r priddfeini." Ymhellach, yn ol un cyfieithiad, ceir, ar orsing drws yn un o'r dinasoedd, gyfeiriad at geidwad y Tramoriaid o Syria.
Rhaid i mi hefyd gyfeirio at y tri darn. o faen mawr a ddarganfuwyd yn Susa—hen brif ddinas Elam, ac un o brif ddinasoedd Persia ar ol hynny. Gorchfygwyd.