oedd tua phymtheg cant o flynyddoedd cyn geni'r Gwaredwr. Yr oedd yr adeilad hwn yn ddiau, fel y cawn sylwi eto, wedi bod yng ngwasanaeth y duwiau dieithr a ddaethant i fri yn Tell El-Amarna, prif ddinas yr Aifft o dan deyrnasiad dau frenin; ac ar y golofn yr oedd arysgrifen of folawd i Amenôthês III. Bu yno am ganrif a hanner yn canu clodydd. y teyrn tirion hwn; ond ryw ddiwrnod yr oedd angen am faen i dderbyn. ysgrif o ddiolchgarwch i'r duw Phtah. Yr oedd Pharaoh Menephtah wedi ennill buddugoliaeth fawr ar y Libyaid, ac efe yn ddeg a thrigain oed. O flaen y frwydr, cafodd weledigaeth ac ynddi gyfarwyddid manwl ar y modd i gyfarfod ei elyn. Gorchfygodd, a rhaid oedd cyhoeddi hanes yr ymgyrch ymhob rhan o'r wlad; a gwelwyd, pan yn chwilio am garreg bwrpasol i dderbyn yr arysgrifen, fod darn ardderchog o faen caboledig ar y golofn adroddai rymusderau Amenôthês III. Trowyd yr ysgrif honno a'i hwyneb at y mur, a cherfiwyd hanes gwrhydri Menephtah ar ei chefn. Dywed yr hanes i'r Libyaid ddod, iddynt gael eu curo, iddynt ffoi, a'r dychrun a barodd hynny yng nghalonnau trigolion yr anialwch. Prudd iawn yw prof-
Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/44
Gwirwyd y dudalen hon