iad Libya. Dywedant (yn ol cyfieithiad Maspero),—
"Ein duw a drodd ei gefn ar ein cadlywydd. Nid oes neb i gario ein pynnau yn y dyddiau hyn; ymguddio yn unig a adewir i ni; ac o fewn ein magwyrydd yn unig y mae diogelwch."
Ond os mewn galarnad y traetha Libya ei phrofiad ar y garreg, y mae'n amlwg fod yr Aifft yn llawn gorfoledd. Dywedant,—
"Cwsg y milwyr; y mae'r gwylwyr. . . . yn hau ar y dolydd. . . . y mae pawb yn canu; ac nid oes griddfaniad nac ochenaid. . . . yn awr gan fod y Libyaid wedi eu dinistrio, y mae'r Khati yn heddychol, y mae gwlad Canan yn ddarostyngedig, arweinir pobl Ascalon a Gezar i gaethiwed, dinas Ianouâmim a ddisgynnwyd, hwynt hwy o Israel (Israilou) a ddinistriwyd, nid oes ddernyn o honynt ar ol."
Dyma'r cyfeiriad cyntaf at y genedl etholedig a ddarganfuwyd ar gerrig yr Aifft; a chyfyd y cwestiwn pwy oedd y brenin hwn? Atebir yn dra chyffredin mai at hwn y danfonwyd Moses o Horeb wedi cael o hono weledigaeth y berth. Efe erlidiodd drigolion Gosen at y Môr Coch, a'i lu a foddwyd dan y tonnau. Eithr pan. ofynnir cwestiwn arall, sef, At ba am-