ei mab yn olynydd i'w dad a fu yn achos iddo ddatgysylltu gorsedd yr Aifft â hen grefydd y wlad. Modd bynnag, bu anghydfod, a bu ei waith yn rhoddi safle o'r fath anrhydedd i dduw newydd yn ddigon fel achos o lawer o bethau ereill. Nis gallodd newid peth mor gysegredig a chrefydd heb iddi fyned yn dywydd mawr arno. Aeth yn rhwyg difrifol rhyngddo âg offeiriadaeth Thebes; a bu iddo symud ei brif ddinas i Tell El Amarna, a chymerodd enw newydd, sef Khu En Aten— gogoniant y duw newydd a addolai. Gyda'r llys symudwyd y trysorau a'r cofnodion brenhinol a'r ohebiaeth rhwng y swyddogion â'r orsedd; ac ymysg y rheiny yr oedd rhai o'r llechau elai sydd dan ein sylw. Wedi marw Amenôthês IV., a chan nas gadawodd fab i lanw'r deyrngadair ar ei ol, nid hir y parhaodd mawredd ei ddinas na'r ymlyniad wrth ei grefydd. Ar ei ol ef dechreuodd llinach newydd. o frenhinoedd—y bedwaredd ar bymtheg; a thrachefn daeth Thebes i fod yn brif ddinas; ac wedi ymadael o'i gogoniant ni chadwodd Tell El Amarna garreg ar garreg am yn hir. Claddwyd hi a'i llyfrgell o dan yr adfeilion; ac yr oedd yng ngolwg y wlad fel dinas wrthodedig. Nid oes
Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/50
Gwirwyd y dudalen hon