yrau ddesgrifiad o helyntion yng Nghanan ganrif cyn i'w hetifeddion gyrraedd iddi. Ystyr y gair Hebreaid yw pobl wedi croesi. Gall olygu eu bod wedi croesi o eilunaddoliaeth i wasanaeth y gwir Dduw; neu gall feddwl eu bod wedi croesi môr neu afon. Yn awr, nis gwyddom am bobl a chymaint o groesi yn eu hanes a chenedl Israel. Croesodd Abram yr Euphrates ar y ffordd o Haran i Ganan. Ar eu hymdaith o gaethiwed y priddfeini croesodd Israel y môr yng nghysgod gosgordd o golofnau, ac ar drothwy eu hetifeddiaeth aethant drwy'r Iorddonen. Os yw 'Abiri a Hebreaid yn gyfystyr gellir dod dros yr anhawsder sydd yn codi o'r llythyrau drwy awgrymu mai llwyth o bobl o'r tu draw i ffiniau Canan barodd. i'r swyddogion ddanfon at Pharaoh.
Ymhlith llechau Tell El Amarna ceir tua thrigain o lythyrau oddiwrth Ribadda — Gebal, prif ddinas Phoenicia. Dyn rhyfedd oedd hwn. Yr oedd yn wastad mewn anhawsder a gofid. Y mae un o ddau beth yn wir am dano. Gosodwyd ef mewn lle eithriadol o ran awydd a chyfleustra i ddynion ymosod arno; neu, yr oedd ganddo galon ofnus a gallu i ddychmygu fod gelynion lle nad oeddynt. Y