yn fore; ac y mae hithau seryddiaeth yn hen, yn hŷn na daeareg er engraifft. Y mae dyn yn greadur crefyddol. Edrychodd i fyny cyn edrych i lawr. Rhoddwn yma dair llinell o emyn o glod i'r dduwies Istar, yr hon yw Astaroth y Beibl,—
"Y dduwies Istar a ddyrchafaf, cân o fawl a ganaf iddi
A hufen, palmaeron, a llaeth melus, a chyffeithfwyd a saith pysgoayn
Yr arlwyaf ei bwrdd (hi) yr hon a elwir cyhoeddwr y byd."
Mewn Sumeraeg, un o hen ieithoedd Babilonia, ceir casgliad o emynnau a gweddiau i dduw a elwir Ninib; a dywed Dr. Sayce eu bod yn hŷn na dyddiau Abraham. Rhydd y gŵr dysgedig hwn un o'r emynnau yn gyfieithiedig i'r Saesneg. Dywed bethau tebyg i hyn. Yr oedd y barbariaid o'r gogledd—ddwyrain wedi ymdaenu dros y fro. Dinistriwyd y temlau, ac yr oedd y brodorion wedi eu gorfodi i wneud priddfeini i'w meistriaid gormesol. Yr oedd Ninib yn hawlio awdurdod ar yr ystorm, a "chlustymwrandawodd â gweddiau'r" bobl, a daeth i'w cynorthwyo. Gwlawiodd gesair ar y gelyn a llifodd y meusydd â dwfr.