Y llechen fwyaf dyddorol yn y llyfrgell. yw'r un a gofnoda hanes y diluw. O gyfieithiad y darlithydd mewn Assyriaeg ym Mhrifysgol Llundain sylwn fod yr hanes yn rhyfeddol o ran ei debygrwydd i'r cofnodiad ysgrythyrol. "Ac wele, mi a'u difethaf hwynt gyda'r ddaear," medd llyfr Genesis. Efe a ysguba ymaith bawb dynion gyda'u gilydd" ebe darlleniad llech Nippur: a dyma frawddegau ereill o'r un ffynhonnell,—"Adeilada gwch mawr"—"bydd dy fâd-dy yn cario yr hyn a achubwyd o fywyd"—"anifeiliaid y maes."
Y mae nifer mawr o gyfeiriadau at y diluw a'r arch i gadw'r ty yn llenyddiaeth grefyddol baganaidd y byd. Nid syn hynny, oherwydd yr oedd teulu pob dyn ar y ddaear yn mwynhau diddosrwydd trugaredd y dwthwn hwnnw.
Ar y llechau clai a ddarganfuwyd ym. Mabilonia ceir hanes Gilgames—Samson y wlad honno. Gorchfygodd ddinas Erech. (Gen. x. 10) a llywodraethodd hi â ffon o haearn, ac ocheneidiodd ei thrigolion. am ymwared. Troisant at eu duwies garedig. Tosturiodd hi, ac yn ebrwydd, er estyn cynhorthwy iddynt, creodd greadur