IV. YSGRIFAU AR BAPUR-FRWYN.
BU papur-frwyn yn ddefnydd ysgrifennu am yng ngwlad yr Aifft. Tyfent ar fin y Nilus mewn gorddigonedd gynt, ond erbyn. hyn, fel pe byddent yn cilio am nad oes angen am danynt; ni cheir llawer o honynt islaw'r Sudan. Planhigyn a dyf o ddeg i ddeunaw troedfedd o hyd ydyw'r bapur-frwynen, ac y mae ei changhennau yn dair onglog. Ynddynt y mae pabwyryn neu fadrudd; a thorrid hwn yn ddalennau teneu, hirgul, a glynai y dail wrth eu gilydd, ochr wrth ochr, nes ffurfio darn digonol o ran maint i ateb yr angen at ysgrifennu. Yna gosodid dwy ddalen ar eu gilydd er gwneud y defnydd yn gryfach; ac wedi i'r ddeilen o ddau drwch sychu yn yr haul a chael ei llyfnhau, yr oedd yn barod at law'r ysgrifennydd.
O ran hyd, y mae'r rholiau papurfrwyn yn amrywio cryn lawer. Darganfuwyd un sydd yn wyth llath a deugain; ac yn gyffredin y maent yn naw a deng modfedd o led. Ysgrifennwyd ar y ddau tu