Xerxes II., a Darius II. (423—405 c.c.). Cyrhaeddant dros gyfnod o drigain mlynedd—sef o 471 i 411; ac y maent yn gyf— oedion i lyfr y proffwyd Malachi, a thua'r un adeg y digwyddodd yr amgylchiadau a gofnodir gan Ezra a Nehemiah ac yn llyfr Esther. Y Xerxes a enwyd gyntat gennym yw yr Ahasferus, a gymerodd y frenhin-fraint o feddiant Fasti. Ymysg yr ysgrifau ceir deiseb oddiwrth yr Iddewon at Bagohi, llywodraethwr Judah. Dyma led—gyfieithiad o ran o honi,—
I'n Harglwydd, Bagohi. Dy weision, Jedonijah a'i gymdeithion yr offeiriaid sydd yn Elephantiné, yn yr amddiffynfa, tangnefedd. Bydded i'n Harglwydd, Duw y nefoedd, ganiatau ti yn helaeth bob amser.& boed i ti dderbyn ffafr o flaen Darius y brenin... Bydded i ti fod yn hapus ac mewn iechyd da bob amser. Yn awr, llefara Jedonijah a'i gymdeithion fel hyn—ym mis Tammuz, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i Darius y brenin, pan ymadawodd Arsam ac yr aeth at y brenin, offeiriaid y Duw. Khnub, y rhai oedd yn yr amddiffynfa yn Elephantiné (yeb) [a wnaethant] frad-fwriad mewn undeb à Waidrang, yr hwn oedd lywodraethwr yma. Gan ddywedyd—Cymerer ymaith oddiyma y deml a berthyn i'r Duw Yahu—y Duw sydd yn Elephantiné (yeb) yr amddiffynfa."
Y llywodraethwr lleol oedd Arsam, ac ar adeg un o'i ymweliadau â'i feistr y di-