ac a ymprydiasom ac a weddiasom ar Yahu, Duw y nefoedd, a rhoddodd i ni ein dymuniad ar y Waidrang hwn. Cymerwyd y dorch neu'r fodrwy oddiar ei droed."
Hon oedd yr arwydd gweledig o urddas ei safle; ac yr oedd ei thynnu ymaith yn dynodi cryn ddarostyngiad iddo. O ddydd yr anrhaith i ddydd y ddeiseb ni eneiniodd yr Iddewon hyn eu cyrff. Nid yfasant win, ac ymbiliasant yn daer am ganiatad i adeiladu eu teml. Os bydd i Bagohi ganiatau hyn iddynt, addawant aberthu ar allor Yahu yn ei enw a gweddiant drosto. Dywedant hefyd eu bod wedi ysgrifennu ar yr un mater at Delaiah. a Shelamiah, meibion Sanbalat, llywodraethwr Samaria. Mewn ysgrif arall a gafwyd yn yr un man, cofnodir caniatad. Bagohi a Delaiah i ail adeiladu'r deml, ac fel cynt i gyflwyno blawd-offrymau ac i losgi perarogl-darth.
Pwy oedd yr Iddewon hyn? O ba le y daethant? Wrth geisio ateb y cwest iynau hyn y mae cnwd o ddyfaliadau wedi eu cynhyrchu. Y mae un peth yn sicr. Siaradent yr Aramaeg. Bu farw'r Hebraeg fel iaith amgylchiadau a masnach; a rhaid oedd ei hegluro ynglyn â phethau