Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/77

Gwirwyd y dudalen hon

iwr. Eneinient y cyrff â pheraroglau. costus o fyrr, cassia, a natron. Cyfeirient at y rhai a hunasant fel rhai byw. Ymwelai'r enaid â'r corff ar ol ei gladdu. Teithiai'r enaid gryn lawer yn yr ail fyd. Cyfarfyddai â llawer o anhawsderau a gelynion, a rhaid oedd darparu ar eu cyfer. Ac i'r amcan o gynorthwyo'r marw yr ysgrifennwyd y llyfr. Cynhwysa gyfarwyddiadau manwl am deithiau a pheryglon y byd arall, a chredir mai Thoth—yr hwn a leinw'r swydd bwysig o fod yn gofiadur tynged y ddynoliaeth, yw awdur llawer rhan o hono. Bu'r eneidiau cyntaf i groesi trothwy'r bedd mewn enbyddrwydd; a honna Llyfr y Meirw y gallu i roddi gwybodaeth oll bwysig am ffyrdd dedwyddwch yr ardaloedd y teithia'r enaid drwyddynt wedi tynnu'r olaf anadl. Disgwylid i bob un ddysgu cynnwys y gyfrol, a rhan o waith yr offeiriad oedd canu dysg y gyfrol yng nghlust y trancedig. Ysgrifennid rhannau o hono ar yr eirch ac ar furiau'r bedd.

Y mae yr holl lyfr yn fawr, ac iddo gant a phedwar ugain o benodau, a hefyd ddarluniau lawer. Gwelir oddiwrtho mai helyntion y bywyd hwn yn cael eu hail fyw yw yr hyn a ddigwydd ym mro marwol-