Tudalen:Cyfrinach y Dwyrain.djvu/78

Gwirwyd y dudalen hon

aeth yn ol drychfeddwl yr Aifftiaid. Yr afon oedd gwrthrych mwya'u gwlad; a gwlad a llawer o ddŵr ynddi yw eu nefoedd. Yr oeddent hwy yn fwy hoff o ddŵr na'r Iddew. Afon i'w hofni oedd yr Iorddonen iddo ef. Gwir fod ganddo mewn addewid yr afon bur o ddwfr y bywyd, a bod y pren na fydd gwyw ei ddail ac a rydd ei ffrwyth yn ei bryd wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd. Afon a'i dŵr yn iachau dyfroedd y môr oedd yr un a welodd Eseciel. Afon a ddygai fywyd ydoedd, ac yr oedd yn llawn pysgod. Cofiwn am yr heddwch fel afon; eithr ar y cyfan y mae yr afon yn peri braw i'r Iddew, a'i ddisgrifiad ef o honi sydd yn emynnau Cymru. "Ac na'm hofner gan y llif" yw byrdwn cân y pererin wrth groesi'r afonydd. Ond i'r Aifftiwr y mae y nefoedd yn rhyw wlad a Nilus o'i mewn. Y mae camlesi yno. Cleddir bad gyda'i gorff yn aml.

Ar lan aswy y Nilus, fel y rhed i Fôr Canoldir, tua chwech ugain o filltiroedd yn uwch na Chairo, y mae adfeilion dinas Oxyrhynchus. Behnesh yw yr enw diweddar ar y lle. Yn y bedwaredd a'r bumed ganrif yr oedd y lle yn enwog am y nifer o eglwysi a mynachlogydd Crist-