tua 150 A.D. i'r awdurdodau i hysbysu genedigaeth mab.
"I Socrates a Didymus . . . yr ydym yn rhoddi rhybudd am y mab a anwyd i ni, Ischyras, un mlwydd oed yn y bresennol, y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i Antoninus Caesar ein harglwydd."
Yr oedd y mab yr un enw a'i dad, a Thaisarion oedd enw'r fam. Dyma gofnodiad swyddogol arall,—
"Heraclides, pentref ysgrifennydd Euhemeria, oddiwrth Mysthes, mab Peneouris, o Euhemeria yn rhanbarth Themister. Fy mrawd Peneouris, cofrestredig fel un o drigolion ardal y pentref a enwyd, a fu farw ym mis Mesore o flwyddyn gyntaf Gaius Caesar Augustus Germanicus. Myfi a gyflwynaf i chwi y rhybudd hwn fel y bydd i'w enw gael ei osod ar restr y personau trancedig yn ol yr arfer."
Y peth mwyaf dyddorol o Fayûm a welsom oedd llythyr mab afradlon at ei fam (Deissman 177). Dyma gyfieithiad o hono,—
"Antonis Longus i'w fam Nilus, cyfarchiadau lawer. Ac yn wastad y deisyfaf ar i ti fod mewn iechyd. Erfyniaf drosot bob dydd at yr Arglwydd Serapis (ei duw). Dymunwn i ti ddeall nad oedd gennyf obaith y byddet yn myned i fyny i'r brif ddinas ac felly ni