V. YSGRIFAU AR BRIDDLESTRI A LLAFNAU O GERRIG.
TRA yr oedd y garreg, y llech o glai a'r papurfrwyn yn ddefnydd ysgrifennu i'r cyfoethogion a'r dosbarthiadau agosaf atynt, yr oedd darn o briddlestr yn werthfawr at yr un gwaith yngolwg y dosbarthiadau tlotaf. Yn ein plith ni, nid oes dim yn fwy diwerth na llestri o bridd wedi torri. Cant wasanaethu ar flodau y garddwr ac i'r plant i chwareu siop fach; eithr yn y canrifoedd oddeutu'r Ymgnawdoliad gwneid defnydd helaeth o honynt yn lle papur ysgrifennu. Clywsom am y modd y byddai gwlad Groeg yn diogelu ei hunan rhag cymeriadau annymunol a drigent ynddi ac a boenent eu cymydogion. Yn 509 cyn Crist, yr oedd Cleisthenes yn un o ddinasyddion Athen. Gŵr enwog fel diwygiwr yng ngwleidyddiaeth y deyrnas, yn bennaf, ydoedd; a chysylltir ei enw ag un arferiad hynod iawn. Mewn cymanfa flynyddol, trefnodd i bob dinesydd yr hawl i ysgrifennu enw unrhyw un y dylid yn ol ei farn ef ei