awdurdodau llywodraethol. Yr oedd y baddonau ymhob ardal i'w cynnal gan y cyhoedd; ac ymysg yr ostraca—fel y gelwir hwynt, ceir llawer o nodiadau yn cydnabod derbyniad y dreth at gynhaliaeth y lleoedd hyn i ymolchi. Dyma un ohonynt, "Y drydedd flwyddyn, Pachon 18, talodd Heras, gwraig weddw, mam Heron, dreth yr ymdrochle (neu'r eneindy) yn Euhemeria trwy Heron fel rhan o'r tâl, pedair obol ar ddeg. Cyfanswm 14 ob." Yng nghasgliad y Fayûm y ceir y daleb hon; ac ereill o'r un ffynhonnell yw gorchymyn oddiwrth Agathinus, cedd yn gofalu am borthiant meirch y milwyr, am ddau lwyth o wair; taleb am sachaid o us at wasanaeth y gwersyll yn Dionysias. Dyma un arall a berthyn i'r chweched neu'r seithfed ganrif oddiwrth dri dyn ieuanc at yr esgob Abraham o Hermonthis (fel y tybir). Ysgrifennwyd y ddeiseb ar ddau tu i'r darn llestr,—
"Myfi Samuel, a Jacob ac Aaron, a ysgrifennwn at Ein Tad Sanctaidd Ara Abraham yr Esgob. Gan weled ein bod wedi deisyfu dy dadolaeth ar i ti ein hordeinio yn ddiaconiaid, yr ydym yn barod i gadw'r gorchmynion a'r gosodiadau ac i ufuddhau i'r rhai sydd uwch na ni ac i fod yn ufudd i'n huwchraddiaid ac i wylio'r gwelyau ar ddyddiau cymundeb ac i