. . . yr Efengyl yn ol Ioan a'i dysgu ar gof erbyn diwedd y Pentecost. Os na ddysgwn hi ar gof ac os rhoddwn heibio ei hymarfer, nid oes ilaw arnom. Ac ni fasnachwn, ni chymerwn usuriaeth, ac nid awn oddi cartref heb ymofyn. (am ganiatad). Myfi, Hemai, ac Ara Jacob mab Job, yr ydym yn fechniwyr dros Samuel. Myfi Simeon ac Atre, yr ydym yn fechniwyr dros Jacob. Myfi, Patermute yr offeiriad a Moses a Lassa, yr ydym yn fechniwyr dros. Aaron. Myfi, Patermute, y lleiaf o'r offeiriaid a archwyd ac a ysgrifennais y llechen hon ac ydwyf dyst."
Yr efengyl yn ol Ioan sydd i'w dysgu. Bu'r esgob hwn, yn ol priddlestr arall, yn rhoddi yr efengyl yn ol Matthew yn faes llafur i'r ymgeiswyr; ac yr oedd Ioan, esgob Aphu o Oxyrhynchus, yn gosod pum Salm ar hugain, dau o epistolau Paul, a rhan o efengyl, yn waith i gof y rhai a geisient ei ordeiniad trwy osodiad dwylaw. Rhydd y manylion hyn a llawer o rai cyffelyb gipdrem ar barotoadau'r ymgeiswyr, a rheolau derbyniad i'r weinidogaeth yn yr Aifft ar adeg cyfodiad Mohametaniaeth. Tra yr oedd canlynwyr y proffwyd o Mecca yn cydio yn dynn yng ngharn ei gledd; y gair bywiol a nerthol oedd arf diguro canlynwyr Iesu o Nazareth,—"Drwy y gwaed" yr oedd y ddwy fuddug-