am gynulleidfa. Felly hefyd cynulliadau. o Israeliaid fel yr un ym Mispah (Barn. xxi. 8), a'r dyrfa anerchodd Dafydd (1 Cron, xxxi. 30). Pobl wedi eu galw allan o'u tai-oddiwrth eu masnach ac wedi dod at eu gilydd i benderfynu rhyw gwestiwn oedd eglwys gynt. Gallai man y cyfarfyddiad fod yn heol y ddinas neu dy'r farchnad. Bydol, daearol, ac amserol oedd ei materion; eithr pan ddaeth Cristionogaeth cyfnewidiodd y gair ei ysbryd. Dynoda yn awr y bobl sydd wedi eu galw allan o fyd i benderfynu fod Crist i gael y gogoniant a'r byd i fod yn eiddo iddo. Y mae adnabod y gair yn ei hen gylch yn gymorth gwirioneddol i ni i'w ddeall wedi iddo ddod i gylch newydd. Faint o Paul a ddeallem, onibai i ni adnabod hefyd y Saul o Tarsus a fu'n erlid yr eglwys?
Y mae rhai o'r talebau a ysgrifennwyd. ar y darnau llestr pridd yn cynnwys gair a ddefnyddid gan yr Arglwydd Iesu ac un o'i apostolion. Y gair ydyw yr un a geir yn Matt. vi. 2, y maent yn derbyn (neu derbyniasant) eu gwobr. Gweler hefyd Philip. iv. 18. Ar ostracon a gofnodir gan Deissmann rhoddir derbyneb am dreth a'r gair derbyn arni. Ai nid ydym yn gweled mwy yng ngeiriau'r Arglwydd