gynhysgaeth naturiol yr hanesydd. Fel y tystiodd yr Athro R. T. Jenkins yn Y Llenor, yr oedd yn chwilotwr tan gamp, a chanddo'r gallu prin hwnnw i weled pethau yn y perspective iawn. "Yr oedd wedi gwneud llawer o waith hanesydd cyn gwybod ohono gyfrinach ei alwedigaeth," ebe Mr. Edward Jones. "Yr oedd cynnwys hen gofrestrau plwyfi Cyfeiliog yn eiddo iddo. Byddai'n ymhyfrydu mewn olrhain achau hen deuluoedd ei ardal, a mynnai ddyfod o hyd i wreiddiau pob ffaith. Cerddai ymhell i hen fynwentydd, a threuliodd lawer o amser i fyned trwy hen gofrestrau eglwysig mewn vestries llaith er mwyn cael sicrwydd am ryw ddyddiad, ac aeth trwy beth wmbredd o hen ewyllysiau a gweithredoedd llychlyd er mwyn dyfod o hyd i ryw line goll." hyn y cytuna'r dystiolaeth a roddes swyddog yn y Swyddfa Ewyllysiau ym Mangor amdano mewn ymgom â'r Athro R. T. Jenkins. "Fe fynnodd hwnnw weled popeth sydd yma," meddai.
Yr oedd yn hyddysg iawn yn hen draddodiadau plwyfi Trefeglwys a Llanbrynmair, ac odid y gwyddai neb gymaint ag ef am lên gwerin Sir Drefaldwyn. Byddai wrth ei fodd yn adrodd straeon am fwganod, ysbrydion, a chonsurwyr, ac yr oedd ei ddull o adrodd mor fyw fel y credai ei wrandawyr ar brydiau ei fod yn disgrifio ffeithiau hanes ac nid cynnyrch dychymyg diniwed ac anwybodus. Ond er y diddordeb a gymerai yn y pethau traddodiadol hyn, ni chymylent ddim ar ei farn wrth drin ffeithiau hanes. Fel hanesydd, ni dderbyniai unpeth fel ffaith oddieithr ei argyhoeddi bod ganddo sail digonol. Dengys ei weithiau, nid yn unig fanylrwydd y gŵr pwyllog a gofalus, ond hefyd fod ganddo allu eithriadol i ganfod y cysylltiad rhwng gwahanol ddigwyddiadau a'i gilydd. Dangosant hefyd fod ganddo'r ddawn brin i ddadansoddi'r elfennau cymhleth yn y natur ddynol, ac i ganfod y cymhellion a ysbrydola ei gweithrediadau. Nid croniclo fel mynach yn ei gell a wnai ef, ond gwylio'r gefnogaeth a roddid i ysbryd y peth byw,' neu'r rhwystrau a godid yn ei erbyn, ym myd personoliaeth.
Ei gyfraniad arbennig ef i hanesiaeth oedd ei waith gwerthfawr ynglŷn â llythyrau a dyddlyfrau Howell Harris yn Nhrefeca. Ar y laf o Orffennaf 1741, ysgrifenasai Howell Harris y frawddeg hon yn ei ddyddlyfr,—"Do Thou raise somebody to search and read my Journal, that something may be drawn to Thy glory." Atebwyd ei weddi pan ymgymerodd Richard Bennett â'r gwaith ryw wyth ugain mlynedd ar ôl hynny.
Diddorol yw'r hanes am y cymhellion a'i harweiniodd i Drefeca. Ni ellir gwneuthur dim yn well nag ailadrodd ei eiriau ef ei hun. "Hanner can mlynedd yn ôl, yn Staylittle, y bum gyntaf ar lwyfan eisteddfod, yn derbyn rhan o wobr am draethawd ar Enwogion Sir Drefaldwyn." Hywel Cernyw oedd un o'r beirniaid, ac ni chofiaf i mi ei weled ar ôl hynny nes inni gyfarfod yn