ieuainc, yn nesaf at y Beibl, i sylwi'n fanwl ar Athrawiaethau'r hen Ddiwygwyr enwog, megis y gosodir hwynt allan yn Erthyglau Eglwys Loegr a'r tair Credo, sef Credo'r Apostolion, Nicea, ac Athanasius. Gwelant yno wirioneddau mawrion yr Efengyl a dirgeledigaethau Duw yn cael eu gosod allan mewn modd hynod o ardderchog ac addas. Y mae Cyffes Ffydd a Chatecism y Gymanfa, hefyd, yn haeddiannol o barch mawr a derbyniad. Myfyriant yn astud a chwiliant yn fanwl y cyfryw orchestwaith a'r rhain, fel y dysgont ddeall yn oleu a llefaru yn addas wrth eraill. am athrawiaethau sylfaenol ein cred."
Gwelwn na cheir yn y siars hon un awgrym am ffurfio Cyffes newydd, a chyn i hynny ddyfod i ben, aeth tri deg o flwyddi heibio. Dywedwn air yn fyr am bob un o'r degau.
(1) Y gŵr cyntaf a pharchedicaf yn y Corff ar ôl marwolaeth y bardd o Bantycelyn oedd Peter Williams. Dygwyd cyhuddiad yn ei erbyn ei fod yn gŵyro mewn barn ynghylch yr athrawiaeth, a'r diwedd fu ei ddiarddel. Teg yw casglu i'r helynt hwn gyda gŵr mor enwog ac adnabyddus ddwyn athrawiaeth a chredo i'r ffrynt yn ein plith i raddau mwy nag o'r blaen.
Yn fuan wedyn, dechreuodd rhai o ynadon Meirionnydd roi hen ddeddfau gorthrymus yr oesoedd blaenorol mewn gweithrediad yn erbyn y Methodistiaid. Dirwywyd rhai o'r pregethwyr a'u gwrandawyr; ffodd eraill o'r wlad, bu milwyr allan yn tyrfu ac yn tanio mor agos yma â Chorris, a chaewyd llawer o'r capelau am ysbaid. Mewn canlyniad, penderfynwyd ymofyn trwyddedau i'r pregethwyr a'r capeli, yr un modd a'r Ymneilltuwyr. Llaciodd hyn gryn lawer ar ymlyniad y Methodistiaid wrth yr Eglwys Wladol.
(2) Tua dechrau'r cyfnod hwn, daeth y Wesleaid i Gymru, gan ledaenu'r golygiadau Arminaidd gyda chryn aidd. Yn fuan aeth y wlad fel crochan berwedig gan ymrysonau a dadleuon. Ni feddwn ni heddiw unrhyw ddirnadaeth am ffyrnigrwydd y teimladau a gynhyrchwyd rhwng crefyddwyr a'i gilydd. Barnodd y Gymdeithasfa yn briodol ddelio mewn modd uniongyrchol ag asgwrn y gynnen trwy gymryd Prynedigaeth Neilltuol" yn fater trafodaeth yn Llanfair Caereinion, Ebrill 1806, a "Galwedigaeth Effeithiol" yn Llanidloes, Ebrill 1807. Ond y mae yn ddiamau i lawer o'n pobl ni, wrthwrthwynebu Arminiaeth, lithro i'r eithafion cyferbyniol a mabwysiadu syniadau cyfyng iawn. Y neb a fynno ddeall yr amgylchiadau, darllened hanes y Parch. Robert Davies, Llanwyddelan, pan oedd yn llanc ym mhlwyf Darowen. Gwelir yno ŵr ieuanc mewn ing argyhoeddiad am bechod, a phulpud y Methodistiaid yn Sir Drefaldwyn wedi mynd heb unrhyw ymwared i'w gymell arno. Bendith fawr oedd na chynigiwyd llunio Cyffes Ffydd yng ngwres—neu oerfel, os mynnwch—y teimladau hynny.