(3) Yn nechrau'r cyfnod hwn, ordeiniodd y Methodistiaid weinidogion iddynt eu hunain, a thrwy hynny gorffennwyd torri'r cysylltiad oedd rhyngddynt a'r Eglwys Esgobaethol. Yr oeddynt bellach yn gorff o grefyddwyr ar wahân i'r holl enwadau. Rhyfedd na chawsid Cyffes y pryd hwn. Ordeiniodd Cyfundeb Lady Huntingdon, ein cyfathrachwyr agosaf yn Lloegr, weinidogion 30 mlynedd o'n blaen ni, a lluniasant hwy Gyffes Ffydd yr un pryd. Hwyrach mai'r ymddiriedaeth gyffredinol a feddem yn Mr. Charles o'r Bala oedd y prif reswm nad efelychwyd hwynt gennym. Cymerem ef fel referee ar bob mater braidd "ymofynnid ag Abel, ac felly y dibennid " tra fu Abel fyw. Yn Hydref 1814, bu farw Mr. Charles; a chyn diwedd yr un flwyddyn yng Nghymdeithasfa Llanrwst, penderfynwyd paratoi at gael Cyffes Ffydd. Dyna'r hyn y dadleuai Richard Tibbott drosto 69 mlynedd cyn hynny bellach ar y blociau.
Ond ni ddaeth y diwedd eto. Cododd anhawster o gyfeiriad annisgwyliadwy. Y gŵr mwyaf ei ddylanwad yn y Gogledd ar ôl marwolaeth Mr. Charles oedd John Elias. Er ei ddoniau areithyddol, nid oedd mor gadarn a sefydlog ei farn â rhai o'i frodyr. Yn union yn y cyfwng hwn, gŵyrodd oddi wrth y golygiadau uniongred ar un neu ddau o bynciau, a chyhoeddai efengyl arall " ym mhrif leoedd y dyrfa gyda'i huodledd arferol, er gofid dirfawr i'w gyfeillion gorau, a boddhad digymysg i'r rhai culaf o'r frawdoliaeth. Bu cynnwrf nid bychan yn y gwersyll o'r herwydd ; ac nid cyn i Thomas Jones o Ddinbych, ein prif ddiwinydd, wrthwynebu'r cyfeiliornad hyd at ddagrau ar lawr y Sasiwn, y tynnodd Elias rai o'i eiriau yn ôl, ac yr adferwyd heddwch. Ond argyhoeddwyd yr arweinwyr nad gwiw myned ymlaen i lunio Cyffes Ffydd tra byddai'r awyrgylch mor llawn o drydan. Felly aeth y trydydd deng mlynedd, ar ôl marwolaeth Pantycelyn, heibio heb Gyffes, a hyd y gwyddys, heb nemor o sôn am un ar ôl gaeaf 1814—15. Rywbryd yn ystod y flwyddyn 1821, dygwyd y mater i sylw drachefn; ond anodd dweud pa le na pha bryd y bu hynny. Penderfynodd Cymdeithasfa'r Bala, ym Mehefin, gael argraffiad newydd o Reolau y Seiadau, ond nid yngenir gair yn y Cofnodion am Gyffes, er bod y naill yn dal rhyw fath o berthynas â'r llall. Penderfynodd Cymdeithasfa Llangeitho yn Awst "bod y Corff oll yn gweled ei fod yn beth tra dymunol ac angenrheidiol i argraffu a chyhoeddi y tri pheth canlynol,—(1) Math o Gyffes Ffydd, sef Barn y Corff am holl brif bynciau'r athrawiaeth a gredir ac a bregethir yn ein mysg. (2) Y Rheolau Disgyblaethol sydd yn argraffedig yn barod, gyd ag ychydig chwanegiadau, os yn rheidiol. (3) Cyfansoddiad y Corff, etc.
Dyma'r penderfyniad eglur cyntaf a feddwn ar y mater ar ôl i gynigiad 1814 erthylu. Barned y cyfarwydd pa un a basiwyd