hwn heb wybod gogwydd y Gogledd ai peidio. Nid cwbl amherthynasol yw atgoffa ddarfod cynnal Cymdeithasfa ym Machynlleth ar ôl un y Bala, ac o flaen un Llangeitho. Ychydig iawn o'i hanes sy'n wybyddus. A yw yn bosibl neu yn debygol mai yma, ym Machynlleth, lle y dathlwyd ei chanmlwyddiant yn 1923, yr ymddygwyd y Gyffes yn 1821? Dichon fod cofnodion ar gael yn rhywle a deifl oleuni ar y cwestiwn diddorol hwn.
"Deuparth gwaith yw ei ddechrau." Aeth y gwaith o lunio'r Gyffes rhagddo yn hwylus bellach. Ym Mhwllheli, ym Medi, enwyd brodyr o bob sir at y gorchwyl. Disgwylid iddynt ysgrifennu nifer o erthyglau, ac yna eu darllen yn eu Cyfarfod Misol er mwyn unfrydedd a chadarnhad. Mr. Gwalchmai a gynrychiolai ein rhanbarth ni. Yn Llanidloes, Ebrill 1822, penderfynwyd bod y dirprwywyr i gyfarfod yn y Fronheulog, Llandderfel, o flaen Cymdeithasfa'r Bala i gymharu eu sketches, ac i ffurfio un Gyffes gryno allan o'r cwbl. Felly y gwnaethant; a darllenwyd eu crynodeb brynhawn cyntaf y Sasiwn i'r holl frawdoliaeth. Cytunodd pawb â phob pwnc ohoni, heb neb yn tynnu'n groes.
Gweithredodd y De yr un modd; ac yn Llangeitho yn Awst, darllenwyd a chymeradwywyd eu Cyffes hwythau. Felly, am rai misoedd, meddai'r ddwy dalaith bob un ei Chyffes Ffydd ei hun.
Tuag at wneud y ddwy yn un, cyfarfu un-ar-ddeg o weinidogion yn Aberystwyth o flaen Cymdeithasfa Mawrth, 1823; a buont wrthi am ddeuddydd yn talfyrru, yn ychwanegu, neu yn newid, fel y barnent yn angenrheidiol. Mr. Gwalchmai a gynrychiolai Drefaldwyn Uchaf yno hefyd, ac yr oedd yn un o ysgrifenyddion y pwyllgor. Darllenwyd y Gyffes orffenedig i'r Sasiwn y dydd. canlynol, pryd y derbyniwyd hi'n unfrydol a chalonnog.
Un peth oedd yn eisiau eto, sef cymeradwyaeth y Gogledd i'r Gyffes unedig. Yng Nghymdeithasfa Llanfyllin, y mis canlynol, aethpwyd at y gorchwyl hwnnw. Darllenwyd, neu yn hytrach dechreuwyd darllen, yr erthyglau. Ymdriniai'r ddeunawfed â mater y buasai cryn wahaniaeth barn yn ei gylch yn ein plith. Ymddengys mai Mr. Gwalchmai a'i ffurfiodd i gychwyn, ac iddo orfod ei hysgrifennu lawer gwaith, gan newid cryn dipyn arni, er mwyn cyfarfod â syniadau brodyr eraill. Pan ddarllenwyd hon yn Llanfyllin, gwrthdystiodd y Parch. Robert Roberts o Rosllanerchrugog yn ei herbyn, gan ddweud ei bod yn ddoeth uwchlaw geiriau'r Ysgrythur. Siaradodd mor ddeheuig nes cario llawer o'r Sasiwn gydag ef; a'r unig beth a fedrai ei phleidwyr wneud, er achub y sefyllfa, oedd gohirio ystyriaeth o'r 27 erthygl olaf hyd Sasiwn y Bala. Oni bai am hyn, yn Sir Drefaldwyn y cawsai'r Gyffes ei chadarnhau yn derfynol.
Sasiwn y Bala a ddaeth, a thrwy ddylanwad John Elias a Mr. Charles, Caerfyrddin, llwyddwyd i basio'r Gyffes fel yr oedd,