heb newid dim arni, fel hefyd y gwnelsid yn Aberystwyth. Dyna'r Gyffes bellach mewn grym. Ond y mae'n deilwng o sylw ddarfod i'r Gymanfa Gyffredinol, 50 mlynedd yn ddiweddarach, farnu mai priodol ychwanegu nodiad at y ddeunawfed erthygl, yn cynnwys yn hollol yr hyn y dadleuai Robert Roberts drosto yn Llanfyllin.
Cytuna awdurdodau go uchel i ddweud bod y Gyffes yn gampwaith o ran mater a chyfansoddiad. Nid sêl enwadol, ddallbleidiol, sy'n dywedyd fel hyn. Rai blynyddoedd yn ôl, bu yn fy llaw i lythyr a ysgrifennodd y Parch. John Roberts, gynt o Lerpwl, at gyfaill yng Nghymru yn y flwyddyn 1871. Preswyliai Mr. Roberts ar y pryd yn Edinburgh, ac wele rai o'i eiriau, "Traddododd Dr. Candlish anerchiad rhagorol i efrydwyr Athrofa yr Eglwys Rydd ar agoriad yr Athrofa ar Deyrngarwch i'r Gwirionedd," ac wrth gyfeirio at yr Athrawiaeth am Etholedigaeth, dywedodd iddo gael ei foddhau yn ddirfawr wrth ddarllen Cyffes Ffydd y chwaer eglwys yng Nghymru, lle yr oedd yr athrawiaeth hon yn cael ei gosod allan yn fwy eglur ac ysgrythurol nag mewn unrhyw Gyffes a welodd erioed. Yna efe a'i darllenodd i gyd. . . Ar ôl y cyfarfod, daeth amryw o Weinidogion yr Eglwys Rydd Professor, Doctors, &c., ataf, i'm llongyfarch a gofyn pa le y gellid cael copi o'r Gyffes Ffydd.'
Dyna dystiolaeth y doethawr o'r Alban amdani ymhen 50 mlynedd ar ôl ei chwblhau. Yr oedd ei hawduron oll erbyn hynny wedi noswylio. John Hughes, Pontrobert, oedd yr olaf ohonynt i adael y ddaear. Wrth ddarllen y ganmoliaeth hon, anodd i'r meddwl beidio ag ehedeg o neuaddau Edinburgh at yr hen batriarch o'r Bont yn ei fwthyn cul a thlodaidd, gyda'i lyfrgell o ryw hanner cant o fân-gyfrolau, ac at ei ddeg cyd-weithiwr na chawsai odid un ohonynt gymaint â therm o'r hyn a ellid ei ystyried yn addysg athrofaol, a gofyn mewn syndod, pa fodd y gallasant gyflawni'r fath orchestwaith. Atebwn ni fel y mynnom. Awgrymir eu hatebiad hwy eu hunain i'r cwestiwn yn y geiriau a ysgrifennodd y Parch. Ebeneser Richard ar ddiwedd ei adroddiad o gyfarfod Aberystwyth,—
"Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel.""
(Yn yr Henaduriaeth, Rhagfyr, 1923).