ymaflyd' ynddo. Grym yr addewidion' oedd hoffus enw ein tadau arno, a thystiasant ganwaith ei fod wrth eu bodd' yn y diwyg hwnnw. A chan mai o'r cyfeiriad yna y mae i ni ddyfodfa ddiogel at y pwerau mawrion, y cwestiwn holl-bwysig heddiw yw, Pa fodd y mae rhyngom ag addewidion Duw? Pa le a gânt yn ein bywyd? Soniai'r hen bobl fwy amdanynt nag a wnawn ni. A argoela hynny na chânt ond ychydig o le yn ein myfyrdodau? A ellir fforddio eu hanwybyddu? Tuag atom ni y mae eu gogwydd hwy o'r dechreuad. Gellir dychmygu am rai o'r angylion yn ymson paham yr addawa eu Harglwydd gymaint, mai gweddusach i'w fawrhydi a fyddai cyflawni ei fwriadau yn ei amser da ei hun, heb ymrwymo ymlaen llaw; ac i ryw angel craffach daflu gair i mewn, a gofyn, Pwy, fel hynny, a ddysgasai i Effraim gerdded? Estyn eu dwylo at yr un bychan i'w gymell i fentro a fu eu hanes hwy erioed, a thebyg na ddaethai'r truan byth i ymlwybro heb eu cymorth a'u cefnogaeth. Ond beth am ein hochr ni i'r ddalen? A oes gwerth pendant i addewidion Duw yn rhaglenni bywyd eglwysi a phersonau heddiw? Neu ai pethau a led-oddefir ar dir sentiment yn unig ydynt? Ai tebyg i deganau silff fantell ambell ffermdy hanner can mlynedd yn ôl, efydd tolciog yn disgleirio rhywfaint, ond heb fod yn werth dwy geiniog ar y farchnad? Os yw'r cyfryw ddibristod yn bod, dylem ymdrechu i'w symud ar unwaith; oblegid anodd yw meddwl am waeth sarhad ar gysegredigrwydd na chyfrif yr addewidion fel dieithr-bethau. Gadael cheques y Brenin Mawr heb eu defnyddio,—heb eu darllen hwyrach Canys dyna ydynt,—archebion wedi eu tynnu allan yn ein ffafr, ar fanc ni pheidiodd erioed â thalu, a medd yr Arglwydd wrth odre pob un. Na feddylied y gŵr a'u diystyro y derbyn ef ddim gan yr Arglwydd.
(Yn yr Henaduriaeth, Rhagfyr, 1934).