Yr ydym dan ddyled i'r hen feirdd am ganu fel hyn pan oedd y gwylwyr gosodedig yn rhy ddifater i ddim ond i fygwth ffagodau ar bwy bynnag a aflonyddai ar eu hesmwythgwsg hwy.
Bedwar can mlynedd yn ôl, daeth y Diwygiad Protestannaidd. Rhyw ail "gyflawnder yr amser" oedd hwn, pryd y cododd gwledydd cyfan eu hangorau megis, gan hwylio allan i'r cefnfor mawr dieithr. Deffrodd meddwl y werin fel Samson, a drylliodd lyffetheiriau'r Dalilah Rufeinig fel edau garth. Ar y cyfandir y dechreuodd y Diwygiad, ond cyrhaeddodd Brydain yn lled fuan. Yr oedd un gwahaniaeth ynddo yma rhagor y gwledydd eraill. Yno, dynion a dderbyniasai argyhoeddiad anwrthwynebol o'r gwirionedd yn nyfnder eu hysbrydoedd eu hunain oedd yr arweinwyr, megis Luther yn yr Almaen, Calfin a Farel yn Ffrainc, Zwingle yn yr Yswisdir, a John Knox yn yr Alban.
Ond yma ym Mhrydain, syrthiodd y mudiad i ddwylo'r gwladweinwyr, a chollodd lawer iawn o'i nerth a'i werth. Wrth gwrs, yr oedd yma lawer o wir garedigion y Diwygiad, ond gan nad oeddynt yn y ffrynt, ni fedrent osod nemor ddim o'u delw eu hunain arno. Nodweddion cyfaddawd oedd arno yma, fel y sydd ar bopeth bron a ddaw o ddwylo gwleidyddwyr.
Yn y dyddiau hynny, yr oedd yr awudrdod yn y wlad hon bron i gyd yn nwylo'r brenin, yn enwedig pan fyddai hwnnw'n ddyn o ewyllys gref a phenderfynol. Ar y dechrau, yr oedd y brenin, sef Harri VIII., yn wrthwynebol i'r Diwygiad. Cyhoeddodd lyfr yn erbyn Luther, a derbyniodd ddiolchgarwch gwresog y Pab a'i gynghorwyr ynghyd â'r teitl o "Amddiffynnydd y Ffydd" fel gwobr am ei lafur—teitl a gedwir yn ofalus gan ei olynwyr ac a argreffir ar yr arian bath hyd heddiw. Ond trodd y gwynt cyn hir, a chafodd y Pab braw o briodoldeb y cyngor Ysgrythurol "Na hyderwch ar dywysogion." Priodasai'r brenin yn bur ieuanc. (Dywedir y cymerai pobl orau'r hen fyd gryn lawer o bwyll cyn myned i'r stâd briodasol. Gorchwyl mawr a phwysig iawn oedd adeiladu arch rhag dyfroedd y dilyw, eto bernir i Noa gwplàu honno mewn pum neu chwech ugain mlynedd, ond cymerodd bum can mlynedd cyn dewis cymhares i fyned gydag ef i'r arch. Os tybir i Noa fod yn rhy bwyllog, gellir dweud nad oes hanes iddo edifarhau a dymuno am ail gynnig!) Ond edifarhau a wnaeth y brenin Harri a phenderfynu ceisio ail gynnig. I'r pwrpas hwnnw, anfonodd gais at y Pab am ganiatâd i ysgar oddi wrth ei briod. Nid oedd y Pabau'r pryd hwnnw'n rhyw orfanwl am gadw at lythyren y gyfraith mewn mater o'r fath, yn enwedig pan dderbynnid cais oddi wrth un fel "Amddiffynnydd y Ffydd." Ond yn yr Achos hwn, yr oedd y Pab megis rhwng Pihahiroth a Baalsephon. Yr oedd gwraig y brenin Harri'n chwaer i Ymherodr yr Almaen, a chymerodd hwnnw blaid ei chwaer yn eithaf selog.