draddodiadau eu tadau gan ddiystyru'r capel a'i gysylltiadau. Diau iddi orfod dioddef llawer o wawd a chwerwder gartref, ond daliodd afael ddiysgog yn ei phroffes. A chyn hir dacw hi'n dechrau ar yr offensive, chwedl y newyddiaduron, ac yn amlygu yn ei chymeriad yr elfen ymosodol sydd i fod ym milwyr yr Arglwydd Iesu. Gofynnodd am ganiatâd ei rhieni i gychwyn addoliad teuluaidd. Nid yn rhwydd y goddefid newydd-beth o'r fath yn y Wern, ond dyfalbarhau a wnai Mary Jones. 'Nhad,' meddai o'r diwedd, rhaid i mi gael gwneud." "Wel," meddai yntau, os rhaid yw, Pal, 'does dim ond gadael iti." A dacw'r eneth 16 oed yn offeiriadu ar aelwyd ei chartref. Yn raddol effeithiodd ei gweddïau, a'i hymarweddiad gwastad ar feddwl ei brawd hynaf, nes yr enillwyd ef i geisio Arglwydd Dduw ei chwaer. Daeth hwnnw yn ddyn duwiol iawn, ac yn gyfaill daearol pennaf i'r Parch. R. Jones o Lanfair. Ond yr oedd Evan, y brawd arall yn parhau yn wyllt a dioruchwyliaeth. Difyr yw darllen am ymgais Mary i geisio ei ennill yntau-yn trefnu oedfa i fod yno ar noson waith, ac yn llunio i roi'r pregethwr i gysgu gydag Evan. O'r diwedd llwyddodd yn ei hamcanion a daeth Evan a Margaret ei chwaer i arddel crefydd. A phwy oeddynt, debygech chwi? Neb amgen na'r Parch. Evan Jones o Drewythen wedi hynny, a Mrs. D. Davies hynaf, Llandinam. Y fath ffrwd o weithgarwch crefyddol a lifodd ac a barha i lifo o'r teulu hwn! Ond y mae'r cwbl yn effaith llafur distaw Mary Jones, sydd yn ei bedd ers 66 mlynedd. Nid rhyfedd fod ei choffadwriaeth yn annwyl tu hwnt ganddynt tra buont byw, ac y mae ei hesiampl yn werthfawr i ninnau. "Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth." Chwiorydd ieuaine sydd yma heddiw, a gaiff yr un gair fod yn wir amdanoch chwithau? Sibrydir bod addoliad teuluaidd yn darfod o'r tir; beth a wnewch chwi tuag at ei edfryd? Onid ydych yn ddigon cryf i'w ail-gychwyn eich hunain, a ofelwch chwi na bo dim rhwystr ar ffordd tad neu frawd? A gedwch chwi dôn ysgwrs yr aelwyd y fath fel y bydd y trawsgyweiriad at Feibl a gorsedd gras yn esmwyth a rhwydd? Cofiwch hefyd fod eich dylanwad ar eich brodyr yn fawr iawn, ac ar adeg neilltuol ar eu hoes yn gryfach efallai na dylanwad mam. A ellir dweud amdanynt yng nghanol hudoliaethau tymor ieuenctid fel y dywedir am Foses yn y cawell llafrwyn, " a'i chwaer ef a safodd o bell i gael gwybod beth a wneid iddo ef." Beth a wyddost ti, ferch, a gedwi di dy frawd? Os teimlwch yn wan i wneuthur y pethau hyn, cofiwch ddau beth:—
1. Fod ffyddlondeb distaw, cyson i Grist yn llefaru'n effeithiol iawn. 140 mlynedd yn ôl, ar brynhawn Saboth yn yr haf, difyrrai dau o weision Rhiwgriafol eu hunain trwy goetio. Ar ganol set gwelent wraig yn dynesu atynt. Adnabuant hi fel un oedd yn