fully using—awgrym y dylai Cristnogion fod yn gymedrol yn eu hymgais am gyfoeth, ac nid gyrru'r cerbyd hyd y dibyn. Clywsoch am Mr. Jones, Dolfonddu, gynt. Porthmon oedd ef, a chyrhaeddodd adref o Loegr un tro ar fore ffair Dolgellau. Yr oedd y farchnad wedi gwella yn Lloegr, ond nid oedd papur newydd na thelegram y pryd hwnnw i daenu'r sôn. Gan hynny, anfonodd Mr. Jones y criwr trwy'r dref i rybuddio'r ffermwyr i fod ar eu gocheliad gan fod y farchnad wedi gwella fel a'r fel. Porthmon yn ddigon o Gristion i wneud fel yna! Blaenor yn eich eglwys chwi, Mr. Llywydd, yn galw yn fy hen gartref i un diwrnod, ac yn gofyn i'm nain, "Sarah Richard, ydych chwi yn barod i werthu'r gwlân?" Ydwyf." "Faint ydych eisiau amdano?" "Hyn a hyn," meddai hithau, 1/- y pwys, dyweder. "O,' meddai yntau, "mae'r gwlân wedi codi peth, 'rwy'n rhoddi 1/1 am wlân fel eich un chwi yrwan, ac mi rhof nhw i chwithau." Gwendid," meddai rhywun. Nage, nerth, fy nghyfeillion. Dyna i chwi ddyn wedi gorchfygu y chwant anniwall am gyfoeth sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth. "Wel, busnes ydi busnes," meddech chwi, "nid â dyn ddim ymhell y ffordd yna. Fe aeth hwn mor bell â'r bedd yn anrhydeddus, ac fe adawodd lawer o eiddo i'w fab ar ei ôl. Fe adwaenwn i hwnnw; ni rodiodd ef yn ffyrdd ei dad, ceisiodd fod yn smartiach, ac yn fwy business-like, os gwelwch yn dda, a bu farw yn hen ŵr heb fod nemor gwell na phensioner ar elusen dieithriaid. Nid ystraeon wedi eu coginio i bwrpas neilltuol yw'r pethau hyn, ond ffeithiau profedig. A gallaswn adrodd ychwaneg ohonynt pe buasai amser yn caniatau. Braf o beth fyddai medru gorchfygu'r byd ac nid ymostwng i arfer ei ddulliau. Darllenwch orchestion arwyr yr unfed bennod ar ddeg o'r Hebreaid, a chewch yno 'wneuthur cyfiawnder' wedi ei osod i mewn rhwng goresgyn teyrnasoedd a chau safnau llewod. Cofiwn air y gŵr doeth-gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr Arglwydd nag aberth."
4. Gweini yn Nhŷ Dduw: Os oes raid wrth ymgysegriad i drin y byd yn ddibrofedigaeth, diau fod ei eisiau i iawn ymddwyn. yn y Cysegr. Chwychwi, fy nghyfeillion ieuainc, yn fuan iawn a fydd athrawon ac arolygwyr yr Ysgol Sul, a blaenoriaid yr eglwysi yn y cylch hwn. Efallai y cyrhaedda rhai ohonoch i'r Weinidogaeth. Bydd eich cyfrifoldeb yn fawr iawn, ac nid oes dim ond ymgysegriad i Grist a'ch dwg drwyddo yn ddiogel. Un o'r dynion gorau a fu'n byw erioed yn y cyffiniau yma oedd y Parch. John Roberts hynaf, Gweinidog yr Annibynwyr yn Llanbrynmair. Adroddaf un hanesyn wrthych a ddengys pa fodd yr oedd ef yn gwneud ei waith. Tua chan mlynedd yn ôl, mwy neu lai, megid bachgen addawol iawn ar fronnau'r eglwys yn yr Hen Gapel. Parai ei fedr a'i ymroddiad gyda dysgu'r Gair ac adrodd y